Brenhin guirthvin guirth uchaw yssit
Llyfr Du Caerfyrddin XIII

Brenhin guirthvin guirth uchaw yssit.
Yssi pen plant adaw.
Yssi per gadeir gadarnaw.
Yssi hael diwael diweirhaw.
Yssi haul uraul gurhaw.
A cliwir. issi owir id pridaw.
Y Duv maur. y guv llaur llariaw.
Y duv guin guengert aganaw.
yny wuyw. y duv indin digerit. ordevnit y diallaw.
O pechu a pechuis adaw. O pechaud kin braud pryderaw.
Erbin oed y dit. y del paup oe
Bet iny devret in devraw.
Mal y bv ban fv oreuhaw.
In vn llv ir vn lle teccaw.
Hid impen vn brin erbin ev barnv.
Or teulv teilyghaw.
Teilygdaud wascaud. osgort nav grad new.
Vy Dewis kinvllaud.
Vy Devus domenvs menaud.
Vy bardeir. y Beirt y uedissiaud.
Vy maurhidic nen. vy perchen.
Vy parch. kin tywarch. Kin tywaud.
Amgadu y traethu trathaud.
Yth voli kin tewi tawaud.
Ac im cow. valioff. adiwaud
Urth y gureic. y am dreic vffyldaud.
Ban dywu guas duv diwarnaud
attav. ir imbrav ae briaud.
Rotesew dirneid. kin dirnaud.
A bilwis o bilion. y gnaud.
Ganydoet hagen higaff. y rotion. a rothei o nebaud.
Gvnaeht duv trvgar gardaud.
In evr coeth kyvoeth. y trindaud.
Y mas maeistaud. y mae moliduv.
Adwin y coti. A. diwad pechaud.
Wid. weti. Adiwin kelv brad keli.
Culuit argluit new nav kanmaul attad.
Guenglad vad veidroli.
Guenvlit rit rieitun voli.
Gwingar kar gvar guironet kedwi.
Ny chedwis eva irawllen per barauys duv.
Vrthi. am y cham nychimv ahi.
Guyth golev a orev erni.
Ryv duted edmic. ogyllestic guisc. A guiscvis imdeni.
Periw new a peris idi. imperuet ychiwoeth y noethi.
Ac eil guirth. awnaeth ehalaeth argluit a ergliw y voli.
Ban winnvis gochel y deli.
Sew fort yffroes iti.
Inytoet aradur in eredic tir
Herwit guir in gueini. Y diwaud y trindaud keli.
Ew ae mam dinam daun owri.
Agur guin. Turr guir gwydi ny.
A dav y geissav in guesti.
Ar owris y winiti.
A gueleiste gueric a mab genti.
A diwed tithev irolev guironet.
My thomet in gweti.
Jn gueled in myned hebti.
Y rander arad duv erni.
Ar huni y doeth digiwoth gwerin. Llin kain kaderthi.
Toriw anwar enwir ev hinni.
Turr keisseid y keissav keli.
Y diwod vn gurthwn gurtharab. Vrth y gvr aweli.
A gueleiste dinion din. gowri.
In myned hebod heb drossi.
Gueleis banllyuneis yllentir
Deguch a weluch y medi.
Sew awnaethant plant kai
Y Vrth y medel ym chueli.
Druy eiroled meir mari.
Oe gvybod guybv duv oheni.
Yt oet iny diffrid. y gidahi.
Ysprid glan a gleindid indi.

1