Cadau Gwallawc
Llyfr Taliesin XI

En enw gwledic nef goludawc.
Y drefynt biewyd gyneil uoawc.
Eiric y rethgreu riedawc.
Rieu ryfelgar gewheruawc.
Ef differth aduwyn llan lleenawc.
Torhyt vn hwch ardwyawc.
Hir dychyferudein.
O brydein gofein.
O berth maw ac eidin.
Ny chymeryn kyuerbyn.
Kyweith kyweithyd clytwyn.
Digonwyf digones lyghes.
O beleidyr o bleigheit prenwres.
Prenyal yw y pawb y trachrwres.
Aghyfnent o gadeu digones
Gwallawc gwell gwyd nwyt noc arthles.
Kat yr agathes o achles
Gwawt gognaw y brot digones.
Kat ymro vretrwyn trwy wres
Mawr tan. meidrawl yw y trachwres.
Kat yr ae kymrwy kanhon.
Kat kat crynei yn aeron.
Kat yn arddunyon ac aeron
Eidywet. eilywet y veibon.
Kat ygcoet beit boet ron dyd.
Ny medylyeisti dy alon.
Kat yn rac uydawl amabon.
Nyt atrawd adurawt achubyon.
Kat y gwensteri ac estygi lloygyr.
Safwawc yn awner.
Kat yn ros terra gan wawr.
Oed hywst gwragawn egurawn.
Yn dechreu yghenyat y geirawr.
O rieu o ryfel ry diffawt.
Gwyr a digawn godei gwarthegawc.
Haeardur a hyfeid a gwallawc.
Ac owein mon maelgynig deuawt.
A wnaw peithwyr gorweidawc.
Ym pen coet cledfein.
Atuyd kalaned gwein.
A brein ar disperawt.
Ym prydein yn eidin yn adeueawc.
Yggafran yn aduan brecheinawc.
Yn erbyn yn yscwn gaenawc.
Ny wyl gwr ny welas gwallawc.

1