Kadeir Taliessin
Llyfr Taliesin XIII

Kadeir Taliessin. XXIIII.

Mydwyf merweryd.
Molawt duw dofyd.
Llwrw kyfranc kywyd.
Kyfreu dyfynwedyd.
Bard bron sywedyd.
Pan atleferd.
Awen cwdechuyd.
Ar veinnyoeth veinyd.
Beird llafar lluc de.
Eu gwawt nym gre.
Ar ystrat ar ystre.
Ystryw mawr mire.
Nyt mi wyf kerd uut.
Gogyfarch veird tut.
Ryt ebrwydaf drut.
Rytalmarf ehut.
Ryduhunaf dremut.
Teyrn terwyn volut.
Nyt mi wyf kerd vas.
Gogyfarch veird treis.
Bath vadawl idas.
Dofyn eigynaw adas.
Pwy am ledwis kas.
Kamp ympop noethas.
Pan yw dien gwlith.
Allat gwenith.
Agwlit gwenyn.
Aglut ac ystor.
Ac elyw tra mor.
Ac eur biben llew.
A llen aryant gwiw.
A rud em a grawn.
Ac ewyn eigyawn.
Py dyfrys ffynhawn
Berwr byryr dawn.
Py gyssyllt gwerin.
Brecci boned llyn.
Allwyth lloer wehyn.
Lledyf lloned verlyn.
A sywyon synhwyr.
A sewyd am loer.
A gofrwy gwed gwyr.
Gwrth awel awyr.
A mall amerin.
A gwadawl tra merin.
A chorwc gwytrin.
Ar llaw pererin.
A phybyr a phyc.
Ac vrdawl segyrffyc.
A llyseu medyc.
Lle allwyr venffyc.
Abeird ablodeu.
A gudic bertheu.
A briallu a briwdeil.
A blaen gwyd godeu.
A mall ameuued.
A mynych adneued.
A gwin tal kibed.
O rufein hyt rossed.
A dwfyn dwfyr echwyd.
Dawn y lif dofyd.
Neu pren purawr vyd.
Ffrwythlawn y gynnyd.
Rei ias berwidyd.
Oduch peir pumwyd.
A gwiawn auon.
A gofrwy hinon.
A mel a meillon.
A medgyrn medwon
Adwyn y dragon.
Dawn y derwydon.

1