Kadeir Kerrituen
Llyfr Taliesin XVI

Kadeir Kerrituen. CCC.

Ren rymawr titheu.
Kerreifant om karedeu.
Yn deweint ym pyl geineu.
Llewychawt vy lleufreu.
Mynawc hoedyl minawc ap lleu.
A weleis i yma gynheu.
Diwed yn llechued lleu.
Bu gwrd y hwrd ygkadeu.
Auacdu vy mab inheu.
Detwyd douyd rwy goreu.
Ygkyfamrysson kerdeu.
Oed gwell y synhwyr nor veu.
Keluydaf gwr a gigleu.
Gwydyon ap don dygynuertheu.
A hudwys gwreic a vlodeu.
A dydwc moch a deheu.
Kan bu idaw disgoreu.
Drut ymyt a gwryt pletheu.
A rithwys gorwydawt
Y ar plagawt
Lys. ac enwerys kyfrwyeu.
Pan varnher y kadeireu.
Arbenhic vdun y veu.
Vygkadeir am peir am deduon.
Am areith tryadyl gadeir gysson.
Rym gelwir kyfrwys yn llys don.
Mi ac euronwy ac euron.
Gweleis ymlad taer yn nant ffrangeon.
Duw sul pryt pylgeint.
Rwg wytheint a gwydyon.
Dyf ieu yn geugant yd aethant von.
Y geissaw yscut a hudolyon.
Aran rot drem clot tra gwawr hinon.
Mwyhaf gwarth y marth o parth brython.
Dybrys am ylys efuys afon.
Afon ae hechrys gwrys gwrth terra.
Gwenwyn y chybyt kylchbyt eda.
Nyt wy dyweit geu llyfreu beda.
Kadeir getwided yssyd yma.
A hyt vrawt parawt yn europa.
An rothwy y trindawt.
Trugared dydbrawt
Kein gardawt gan wyrda.

1