Kanu Ygwynt
Llyfr Taliesin XVII

Kanu Ygwynt. CCC. ATAL.

Dechymic pwy yw.
Creadt kyn dilyw.
Creadur kadarn
Heb gic heb ascwrn.
Heb wytheu heb waet.
Heb pen aheb traet.
Ny bed hyn ny byd ieu.
No get y dechreu.
Ny daw oe odeu
Yr ofyn nac agheu.
Ny dioes eisseu
Gan greaduryeu.
Mawr Duw mor wynneu
Ban daw o dechreu.
Mawr y verth ideu
Y gwr ae goreu.
Ef ymaes ef ygkoet
Heb law a heb troet.
Heb heneint heb hoet.
Heb eidigaf adoet.
Ac ef yn gyfoet
A phymhoes pymhoet.
A heuyd yssyd hyn
Pet pemhwnt ulwydyn.
Ac ef yn gyflet.
Ac wyneb tytwet.
Ac ef ny anet.
Ac ef ny welet.
Ef ar vor ef ar tir
Ny wyl ny welir.
Ef yn aghywir
Ny daw pan vynnir.
Ef ar tir ef ar vor
Ef yn anhebcor.
Ef yn diachor
Ef yn dieissor.
Ef o pedeiror
Ni byd wrth gyghor
Ef kychwyn agor
O duch maen mynuor
Ef llafar ef mut.
Ef yn anuynut.
Ef yn wrd ef yn drut.
Pan tremyn trostut.
Ef mut ef llafar.
Ef yn ordear.
Mwyhaf y vanyar
Ar wyneb dayar.
Ef yn da ef yn drwc.
Ef yn angelwc.
Ef yn anamlwc.
Kanys gwyl golwc.
Ef yn drwc ef yn da.
Ef hwnt ef yma.
Ef a antrefna
Ni diwc awna.
Oc ef yn dibech
Ef yn wlyp ef yn sych.
Ef a dawyn vynych.
O wres heul. ac oeruel lloer.
Lloer yn anlles
Handit llei y gwres.
Vu gwr ae goreu.
Yr holl greaduryeu.
Ef bieu dechreu.
A diwed diheu.
A diwed diheu.
Nyt kerdawr keluyd.
Ny mohwy dofyd.
Nyt kywir keinyat.
Ny molhwy y tat.
Ny nawt vyd aradyr.
Heb heyrn heb hat
Ny bu oleuat.
Kyn ile creat.
Ny byd effeirat.
Ny bendicco auyrllat.
Ny wybyd anygnat.
Y seith lauanat.
Deg wlat darmerthat.
Yn e gylawr wlat.
Decuet digarat.
Digarwys eu tat.
Digaru kawat
Yn rwy rewinyat.
Llucuffer llygrat.
Eissor eissyflat
Seith seren yssyd.
O seithnawn dofyd.
seon sywedyd.
A wyr eu defnyd
Marca mercedus.
Ola olimus
Luna lafurus.
Jubiter, venerus.
O heul o hydyruer
Yt gyrch lloer llenfer.
Nyt cof yn ofer.
Nyt croc ny creter.
An tat an pater.
An kar an kymer.
Yn ren nyn ranher
Gan lu llucuffer.

1