Etmic Dinbych
Llyfr Taliesin XXI

Archaf y wen y duw plwyf escori.
perchen nef a llawer pwylluawr wofri.

Aduwyn gaer yssyd ar glawr gweilgi.
bit lawen ygkalan eiryan yri.
Ac amser pan wna mor mawr wrhydri.
ys gnawt gorun beird uch med lestri.
Dydybyd gwanec ar vrys dybrys idi.
Adawhwynt ywerlas o glas ffichti.
Ac am bwyf o dews dros vygwedi.
pan gattwyf amot kymot a thi.

Aduwyn gaer yssyd ar llydan llyn.
Dinas diachor mor oe chylchyn.
gogyfarch ty prydein kwd gygein hyn.
Blaen llyn ap erbin boet teu voyn.
Bu goscor a bu kerd yn eil mehyn.
Ac eryr uch wybyr a llwybyr granwyn.
Rac vd felyc nac escar gychwyn.
Clot wascar a gwanar yd ymdullyn.

Aduwyn gaer yssyd ar ton nawuet.
aduwyn eu gwerin yn ymwaret.
ny wnant eu dwynuyt trwy veuylhaet.
nyt ef eu defawt bot yn galet.
Ny llafaraf eu ar vyn trwydet.
noc eillon deutraeth gwell kaeth dyfet.
kyweithyd o ryd wled waretret.
kynnwys rwg pop deu goreu kiwet.

Aduwyn gaer yssyd ae gwna kyman.
medut a molut ac adar bann.
llyfyn y cherdeu yn y chalan.
Am arglwyd hywyd hewr eiran.
kyn y vynet yn y adwyt yn deruin llan.
ef am rodes med a gwin o wydrin ban.

Aduwyn gaer yssyd yn yr eglan.
atuwyn y[t] rodir y pawb y ran.
Atwen yn dinbych gorwen gwylan.
kyweithyd wleidud ud erllyssan.
Oed ef vyn defawt i nos galan.
lledyfdawt y gan ri ryfel eiran.
A llen lliw ehoec a medu prein.
hyny uwyf tauawt ar veird prydein.

Aduwyn gaer yssyd ae kyffrwy kedeu.
oed meu y rydeu a dewisswn.
Ny lafaraf i deith, reith ryscatwn,
ny dyly kelenic ny wyppo hwn.
yscriuen brydein bryder briffwn.
yn yt wna tonneu eu hymgyffrwn.
pereit hyt pell y gell a treidwn.

Aduwyn gaer yssyd yn ardwyrein.
Gochawn y medut y molut gofrein.
Aduwyn ar eu hor escor gynfrein.
Godef gwrych dymbi hir y hadein.
dychyrch bar karrec crec mor ednein.
llit y mywn tyghet treidet trath[r]umein.
A bleidut gorllwyt goreu affein.
Dimpyner oduch llat pwyllad cofein.
Bendith culwyd nef gytlef a fein.
ar nyn gwnel yn vrowyr gorwyr owein.

Aduwyn gaer yssyd ar lan lliant.
aduwyn yt rodir y pawb y chwant.
Gogyfarch ti vynet boet teu uwyant.
Gwaywawr ryn rein a derllyssant.
Duw merchyr gwelais wyr ygkyfnofant.
Dyf ieu bu gwartheu a amugant.
Ac yd oed vriger coch ac och ar dant.
Oed lludued vynet dyd y doethant.
Ac am Gefyn llech vaelwy kylchwy vriwant.


Back to Llyfr Taliesin 1