Lath Moessen
Llyfr Taliesin XXIV

O pop aduer y torof uroder dychyfaerawt.
But adefic. y grist gwledic dogyn volawt.
Dy bwyth duw kein. yn arffet meir y heissorawt.
Hynt gwiryoned kyflawn rihid kynnelw o honawt.
Gwyeil iesse dy pobyl ļude. dychyfaerawt.
Hu gelwir lleu o luch aleho yr eu pechawt.
Deheu reen mynyd adien mwyn kyfundawt.
Yn ran eluyd yn temhyl selyf seil o gyffrawt.
Gorfunet gwas colofyn dias ffest fflemychawt.
Paradwys drws. bugeil dews duun gwledychawt.
Neu rigigleu gan proffwydeu llenawc.
Geni iessu a rydarfu. hyt y uuced.
A uei uuched y pop ried bwyt parawt.
Kyn perissit bei mi prytwn periwlawt.
Ry duc claer nyt. dayar a yspeidawt.
Ar von diffwys pan disgynnwys dy amgyffrawt.
Gwlat priodawr nys duc mwynuawr bei im oho honawt.
Meint dy godet boet imdyrat. gwyeil iesse
Arat iessu llathyr y blodeu.
Mawr gwyrth yn y vryt o duw donyeu.
Ef oed ygnat. ygnat oed ef. dewin diheu.
Gwr y cussyl i pop vfyd rac geu.
Ef yssyd gafael clayar nifer toeu.
Cunlleith y luyd deheu.
Y mal bydewin dilit o lu lloneit.
Hubyd y gwrth vn mab meir moli reen.
Huarwas gwaso duw treidas pet wyr pet gwiryon.
Dy rac afael kyfoet coet kyflawn.
Lledyssit gein o arffet iessu.
Rud ny popon moch y dyscat
O rodi rat rex meibon.
Newyd anaw mawr glywant dynyadon.
Guir y rat gwas porthyant heb wr adon.
Dygwerthydyd pop vchis rac derwydon.
Nudris ny widyn llarychwel gwelet mabon.
Dydugant thus ac eur delus o ethiopia.
O duw gorden a duw reen rex meneifon.
Herot gystic ny bu godic. y geleudon.
Dy poenedic gwallat peues perchen meibon.
Pan aeth dofyd parth pan dillyd
Nilus habed. ryduc herot. annwyt gayafawl.
Kyflawn vonhed. ygkaer nazared
Nyt aeth peues perchen anaw.
Byt adebryat hu bwyf yth rat tut gorchordeon.
Geni douyd dyduc perchen lleg egylyon.

1