Ad duw meidat
Llyfr Taliesin XXIX

Ad duw meidat duw dofydat dewin trugar.
Mawr enwerys pan ym nodeist i trwy tonyar.
Toruoed mossen gwledic reen gwae eu hescar.
Ys argafu perif aelu reglyt y par.
Ac y vorawc a orugost newyd y par.
Neur dineuwy trwy ryferthwy a uawd adar.
Adrycheif heul hyt gollewein y bu dayar.
Ti a nodyd a rygeryd o pop kachar.
Namyn toruoed teryd eu gawr trwm eu dear.
A nawd ninheu rac adwydeu uffern anwar.
Ad duw meidat duw dofydat dewin trugar.
Ys teu ti wlat nef. ys wrth tagnef it y kery.
Nyt oes ludet nac eissywet yth wlat dofyd.
Ny pherir neb ny byd escar neb yw gilyd.
Mi a wydyon beis deallwn rac kewilyd.
Karu o honawt y lan trindawt o neb keluyd.
Beird ach gogan. Wynt acharan yn tragywyd.
Ny bu agwael y rodeist israel. yn llaw dauyd.
Alexander keffei llawer nifer y wyr.
Nyf ef nerthas ony chafas dy gerenhyd.
Ae vydinoed ae vawr gadeu ae gamluyd.
Pan doethant yr dayar buant dear eu dihenyd.
Selyf ygnat a gennis gwlat. bu gwell noc yd.
Mab teyrnon. bu gnawt berthon oe gyweithyd.
Iago feibon a uu verthon ar eu heluyd.
A dygymuant arannyssant trwy eir dofyd.
Auel wiryon a uu lwydon a gymyrth ffyd.
Y vrawt kaim bu diwerin drwc y gussyl.
Aser a soyw yn awyr loyw eu kyweithyd.
Seren agel a dwyn nifer raceu milwyr.
A llath voessen ef ae toruoed ar eu heluyd.
Rudech dalen vd eilladem vd ei genhym.
Llafar amut a doeth a drut as diwygyd.
Gwledic cwd vn cwd dirperyan dihenyd.
Molaf inheu presswyl toruoed adef menwyt.
Molaf inheu adawt goreu goreilenw byt.
Prif teyrnas a duc ionas o perued kyt.
Kiwdawt niniuen bu gwr llawen pregethyssit.
Riein tra mor bu kyscawt ior yscoryssit.
Ac auaria meir merch anna mawr y phenyt.
Yr dy haeled a thurgared vechteyrn byt.
An bwym ninheu ynef kaereu kynnwys genhyt.

1