Gweith Gwenystrad
Llyfr Taliesin XXXI

Arwyre gwyr katraeth gan dyd.
am wledic gweithuudic gwarthegyd.
Vryen hwn anwawt eineuyd.
kyfedeily teyrned ae gofyn
ryfelgar. rwysc enwir rwyf bedyd.
Gwyr prydein adwythein yn lluyd.
gwen ystrad ystadyl kat kynygyd.
ny nodes na maes na choedyd
tut achles dy ormes pan dyuyd.
Mal tonnawr tost eu gawr dros eluyd.
Gweleis wyr gwychyr yn llyud.
A gwedy boregat briwgic.
Gweleis i twrwf teirffin traghedic.
gwaed gohoyw gofaran gochlywyd.
yn amwyn gwen ystrat y gwelit
gofur hag a gwyr llawr lludedic.
Yn drws ryt gweleis y wyr lletrudyon.
eiryf dillwg y rac blawr gofedon.
Vn ynt tanc gan aethant golludyon
llaw yg croes gryt ygro garanwynyon.
kyfedwynt y gynrein kywym don.
gwanecawr gollychynt rawn eu kaffon.
Gweleis i wyr gospeithic gospylat.
A gwyar a uaglei ar dillat.
A dullyaw diaflym dwys wrth kat.
kat gwortho ny bu ffo pan pwyllatt
glyw reget reuedaf i pan ueidat.
Gweleis i ran reodic am vryen
pan amwyth ae alon. yn llech wen
galystem y wytheint oed llafyn
aessawr gwyr goborthit wrth aghen.
Awyd kat a diffo eurowyn.

Ac yny vallwyf y hen
ym dygyn agheu aghen.
Ny bydif yn dirwen.
na m olwyf i vryen.

1