Eg gorffowys
Llyfr Taliesin XXXIII

Eg gorffowys
Can rychedwys
Parch ach vinnwys.
A med meuedwys.
Meuedwys med
Y oruoled
A chein tired
Imi yn ryfed.
Aryfed mawr
Ac eur ac awr.
Ac awr achet
Achyfriuet
Achyfruiyant.
A rodi chwant.
Chwant oe rodi
Yr vy llochi.
Yt lad yt gryc
Yt vac yt vyc.
Yt vyc yt vac.
Yt lad yn rac.
Rachwed rothit
Y veird y byt.
Byt yn geugant
Itti yt wedant Wrth dy ewyllis.
Duw ryth peris
Rieu ygnis
Rac ofyn dybris.
Annogyat kat
Diffreidyat gwlat.
Gvlat diffreidyat.
Kat annogyat 
Gnawt am danat
Twrwf pystylat.
Pystalat twrwf
Ac yuet cwrwf.
Kwrwf oe yfet
A chein trefret
A chein tudet
Imi ryanllofet.
Llwyfenyd van.
Ac eirch achlan
Yn vn trygan
Mawr abychan
Taliessin gan
Tidi ae didan.
Ys tidi goreu
Or a gigleu
Y wrd lideu.
Molaf inheu
Dy weithredeu.
Ac yny vallwyf hen
Ym dygyn agheu aghen.
Ni bydif ym dirwen
Na molwyf vryen.

1