Rhagoriaeth Gwallawc
Llyfr Taliesin XXXVIII

En enw gwledic nef gorchordyon. rychanant
ry chwynant y dragon.
Gwrthodes gogfres gwelydon lliaws
run a nud a nwython.
ny golychaf an gnawt beird o vrython.
Ryfed hael o sywyd sywedyd. Vn lle
rygethlyd rygethlic
rydylyfaf rychanaf y wledic.
yny wlat yd oed ergrynic
nym gwnel nys gwnaf ec newic.
Anhawd diollwg awdloed ny diffyc
y wledic ny omed.
O edrych awdyl trwm teyrned
yny uyw nys deubyd bud bed.
Ny digonont hoffed oe buchynt.
kaletach yr arteith hael hynt.
Toryf pressennawl tra phrydein tra phryder
rygohoyw rylyccrawr rylyccrer.
rytharnawr rybarnawr.
rybarn pawb ygwr banher
aeninat yn ygnat ac eluet.
Nyt ygwr dilaw y daeret
gwas greit agwrhyt gotraet.
Eneichawc gwallawc ynllywet.
hwyrwedawc gwallawc artebet.
Ny ofyn yneb awnech ud
neut ym vd nac neut ych
darwerther tewued yn diwed haf.
nys kynnyd namyn chwech.
Chwechach it gynan o hynnyd
chwedlawc trwydedawc traeth dyd.
Yeyrned ygwned nwys med mac
tebic heul haf huenyd
soned ganmwyhaf kenhaf
gan doeth ygan llu eilassaf
bint bydi derwyt bryt haf
pryt mab lleenawc lliawc.
Hamgwawl gwnngwawl.
gwnn gwres. tarth gwres gwres tarth
tra gynnis yd eghis heb warth.
cleda cledifa cledifarch.
Nyt amtyrr y lu y ledrat.
nyt amescut y gaw y kywlat.
Tyllynt tal yscwydawr rac taleu y veirch.
O march trwst moryal.
rithcar riallu gwynawc
rigwystlant gweiryd goludawc
o gaer glut hyt gaer garadawc.
ystadyl tir penprys a gwallawc
teyrned tewrn tagwedawc.

1