Marwnat Vthyr Pen[dragon]
Llyfr Taliesin XLVIII

Neu vi luossawc yntrydar.
Ny pheidwn rwg deulu heb wyar.
Neu vi a elwir gorlassar.
Vygwreys bu enuys ym hescar.
Neu vi tywyssawc yn tywyll
Am rithwy am dwy pen kawell.
Neu vi eil kawyl yn ardu.
Ny pheidwn heb wyar rwg deulu.
Neu via amuc vy achlessur.
Yn difant a charant casnur.
Neur ordyfneis i waet am wythur.
Cledyfal hydyr rac meibon cawrnur.
Neu vi araunwys vy echlessur.
Nawuetran yg gwrhyt arthur.
Neu vi a torreis cant kaer.
Neu vi aledeis cant maer.
Neu vi arodeis cant llen.
Neu vi aledeis cant pen.
Neu vi arodeis i henpen.
Cledyfawr goruawr gyghallen.
Neu vi oreu terenhyd
Nayarndor edeithor penmynyd.
Ym gweduit ym gofit. hydyr oed gyhir.
Nyt oed vyt ny bei fy eissillyd.
Midwyf bard moladwy yghywreint.
Poet y gan vrein ac eryr ac wytheint.
Auacdu ae deubu y gymeint.
Pan ymbyrth petrywyr rwg dwy geint.
Drigyaw y nefoed ef vychwant.
rac eryr rac ofyn amheirant.
Wyf bard ac wyf telynawr.
Wyf pibyd ac wyf crythawr.
Seith vgein kerdawr dygoruawr
Gyghallen. bu kalch vri vriniat.
Hu escyll edeinat.
Dy vab dy veirdnat
Dy veir dewndat.
Vyn tauawnt y traethu vy marwnat.
Handit o meinat gwrth glodyat
Byt pryt prydein hyscein ymhwyllat.
Gwledic nef ygkennadeu nam doat.

1