Gwawlt Lud y Mawr
Llyfr Taliesin LII

Kathyl goreu gogant
Wyth nifer nodant.
Duw llun dybydant
Peithiawc ydant.
Duw mawrth y tannant.
Gwyth yn yscarant.
Duw merchyr medant
Ryodres rychwant.
Duw ieu escorant
Eidyolyd anchwant.
Duw gwener dyd gormant.
Yg wat gwyr gonofant.
Duw sadwrn * *
* * * *
Duw sul yn geugant
Diheu dybydant.
Pymp llong a phym cant
Oranant oniant
O brithi brithoi
Nuoes nuedi
Sychedi edi euroi
Eil coet cogni
Antared dymbi.
Pawb y adonai
Ar weryt pwmpai.
Darofum darogan
Gwaed hir rac gorman.
Hir kyhoed kyghan.
Katwaladyr a chynan.
Byt budyd bychan.
Difa gwres huan.
Dysgogan deruyd
Auu auudyd.
Wybyr geironyd
Kerd awn y genhyd.
Wylhawt eil echwyd
Yn torroed mynyd.
Ban beu llawn hyd.
Brython ar gyghyr.
Y vrython dymbi
Gwaet gwned ofri.
Guedy eur ac eurynni.
Diffeith moni a lleenni.
Ac eryri anhed yndi.
Dyscogan perffeith
Anhed ym diffeith.
Kymry pedeir ieith.
Symudant eu hareith.
Yt y vi y uuch y uuch vreith
A wnaho gwynyeith.
Meindyd brefawt.
Meinoeth berwhawt.
Ar tir berwhodawr
Yn llogoed yssadawr.
Kathyl gwae canhator
Kylch prydein amgor.
Dedeuant vn gyghor
Y wrthot gwarthmor.
Boet gwir vennhryt
Dragwynawl byt.
Dowys dolhwyc kyt
Dolaethwy eithyt.
Kynran llawn yt
Gyfarch kynut
Heb eppa heb henuonha.
Heb ofur byt.
Byt auyd diffeith dyreit.
Kogeu tyghettor.
Hoywwed trwy groywed.
Gwyr bychein bron otwyllyd.
Toruennhawl tuth iolyd.
Hwedyd ar vedyd
Ny wancyllellawr cledyfawr meiwyr.
Nyt oed udu y puchysswn
Anaw angerdawl trefdyn.
Ac y wyr kared creudyn.
Kymry eigyl gwydyl prydyn.
Kymry kyfret ac ascen.
Dygedawr gwydueirch ar llyn.
Gogled o wenwynuyd o hermyn.
O echlur caslur caslyn.
O echen adaf henyn.
Dygedawr trydw y gychwyn
Branes o goscord gwyrein.
Meryd milet seithin
Ar vor agor ar cristin.
Vuch o vor vuch o vynyd.
Vch o vor ynyal ebryn.
Coet maes tyno abryn.
Pop arawt heb erglywaw nebawt
O vynawc o pop mehyn.
Yt vi brithret
A lliaws gyniret.
A gofut am wehyn.
Dialeu trwy houw gredeu bresswylo
Godi creawdyr kyfoethawc duw vrdin.
Pell amser kyn no dyd brawt
Y daw diwarnawt.
A dwyrein darlleawr
Teruyn tiryon tir iwerdon.
Y prydein yna y daw datwyrein.
Brython o vonhed rufein.
Ambi barnodyd o aghygres dieu.
Dysgogan sywedydyon
Ygwlat y colledigyon.
Dysgogan deruydon
Tra mor tra brython.
Haf ny byd hinon.
Brythawt breu breyryon.
Ae deubyd o gwanfret
Tra erin tat ket.
Mil ym brawt prydein vrdin.
Ac yam gyffwn kyffin.
Na chwyaf ygoglyt gwern
Gwerin gwaelotwed uffern.
Ergrynaf kyllestric kaen
Gan wledic gwlat anorffen.

1