Yn wir dymbi romani kar
Llyfr Taliesin LIII

Yn wir dymbi romani kar.
Odit o vab dyn arall y par.
Rac daw ryglywhawr maw gyfagar
A bydin a gwaetlin ar y escar.
A thriganed kyrn a gwerin trygar.
Ry thrychynt rygyrchynt ygledyfar.
Brein ac eryron gollychant wyar.
Arllwybyr gwrit arth gwrys diarchar.
Ardyrched katwaladyr lluch allachar.
Ar wyneb bydinawr broed ynyal.

Yn wir dymbi dydranoueu.
Gofunet dysgogan ygkynechreu.
Blwydyned budic rossed rihyd reitheu.
Gayaf gyt llyry llym llywit llogeu.
Keithiawn eilyssaf mynut ryffreu.
Prit myr ryuerthwy ar warr tonneu.
Elyrch dymdygyrch tani o glawr balcheu.
Arth a llewderllys oleu bylleu.
Ef dibyn y teruyn o rud vereu.
Rwy keissut kystud rybud rageu.
Rac y varanres ae vawr vedeu.
Credeu cwydynt tyrch torrynt toruoed taleu.
Y kynnif katwaladyr clot lathyr leu.
Dydyrchafwy dreic o parth deheu.
Gan was rydad las yn dyd dyfieu.

Yn wir dymbi hael hywred.
Tyruawt molut mawr edryssed.
Llwybyr tew lluossawc llydan y wed.
Hyt pan uwynt seith ieith y ri gwyned
Hyt pan traghwy traghawt trydar.
Ri eidun duhun duded.
Treis ar eigyl a hunt i alltuted.
Trwy vor llithrant eu heissilled.

Yn wir dymbi teithiawc mon.
Ffaw dreic diffredyat y popyl brython.
Pen lluyd perchyd llurygogyon.
Dwfyn dargoan dewin drywon.
Pebyllyawnt ar tren a tharanhon.
Gorllechant gordyfynt y geissaw mon.
Pell debet by hyt o iwerdon.
Tec ffaw dillygyaw kessarogyon.

Dysgogan delwat o agarat dyhed.
Gogwn pan perit kat arwinued.
Arth o deheubarth yn kyfarth gwyned
Yn amwyn rihyd ryfed rossed.
Y cheiric altirat y darinerthed.
Gayaf kelenic yn lleu tied.
Kyflewynt aessawr yggawr ygcled.
Y gynnif katwaladyr ar ior gwyned.

Yn wir dydeuhawr dyderbi hyn.
Lloegyr oll ymellun eu meuoed genhyn.
Gwelet artebet y gawr brychwyn.
Rwng aseth vereu a hayarn gwyn.
Galwhawr ar vor. gwaywawr aegryn.
Nuchawnt yn eigawn tra llydan lyn.
Hallt ac yn yssed vyd eu budyn.

Yn wir dymbi dy dra hafrn.
Vrthenedic prydein brenhin gorden.
Llary lywyd lluyd lliaws y echen.
Teyrnas kyfadas caso iaen.
Gwerin byt yn wir bydawnt lawen.
Medhawnt ar peiron berthwyr echen.
Fflemychawt hirell ty uch hafren.
Bydhawt kymry kynnull yn discowen.
Y kynnif katwaladyr bythit llawen.
Peneri cerdoryon clot y gweithen.

Yn wir dedeuhawr
Ae lu ae longawr
Ae taryf yscwytawr
Ae newityaw gwaywawr.
A gwedy gwychyr awr
Y uod ef gwnelawr
Kylch prydein bo
Flemychit ygno.
Dreic nyt ymgelho
Yr meint y do.
Nyt yscawn iolet
Gorescyn dyuet.
Dydyccawt ynwet
Tra merin reget.
Perif perchen ket.
Gwledychawt yn eluet.
Hael hydyr y dylif.
Goruawr y gynnif.
wrth awyryohif
Katwaladyr gweith heinif.

1