Kanu y Byt Mawr
Llyfr Taliesin LV

Gvolychaf vyn tat.
Vyn duw vyn neirthat.
A dodes trwy vy iat 
Eneit ym pwyllat.
Am goruc yn gwylat.
Vy seith llafanat.
O tan a dayar.
A dwfyr ac awyr.
A nywl a blodeu
A gwynt godeheu.
Eil synhwyr pwyllat
Ym pwyllwys vyn tat.
Vn yw a rynnyaf.
A deu a tynaf.
A thri a wedaf.
A phetwar a vlassaaf.
A phymp a welaf.
A chwech a glywaf.
A seith a arogleuaf.
Ac a agdiwedaf.
Seith awyr ysyd
O duch sywedyd.
a their ran y myr
Mor ynt amrygyr.
Mor uawr a ryfed
Y byt nat vn wed.
Ry goruc duw vry
Ary planete.
Ry goruc sola.
Ry goruc luna.
Ry goruc marca
Y marcarucia.
Ry goruc venus.
Ry goruc venerus.
Ry goruc seuerus.
A seithued saturnus.
Ry goruc duw da.
Pymp gwregys terra
Pa hyt yt para.
Vn yssyd oer.
Ar trydyd yssyd wres
A dyofac anlles.
Petweryd paradwys
Gwerin a gynnwys.
Pymhet artymherawd
A pyrth y vedyssawt.
Yn tri yt rannat
Yn amgan pwyllat.
Vn ywyr asia.
Deu ywyr affrica.
Tri yw europa.
Bedyd gygwara.
Hyt vrodic yt para.
Pan varnher pop tra
Ry goruc vy awen
Y voli vyren.
Mydwy taliessin 
Areith lif dewin
Parahawt hyt fin
Yg kynnelw elphin.

1