Chwedleu Seith Doethon Rufein

Diawchleison a oed amherawdyr yn Rufein. A gwedy marw Eua y wteie a gadu un mab o etiued udunt, ynteu a dyfynnawd attaw seithwyr o doethon Rufein. Nyt amgen eu henweu, Bantillas, Aw[528]gustus, Lentilus, Malqwidas, Catomas uarchawc da, Iesse, Martinus. A’r gwyr hynny gwedy eu dyuot a ofynnassant y’r amherawdyr beth a uynnit ac wynt, a phaham y dyfynnassit wynt yno. “Llyma yr achaws,” heb yr amherawdyr. “Vn mab yssyd yin, a gofyn y chwitheu att hwy y rodwyf ef y dyscu moesseu a deuodeu a mynutrwyd a magyat da idaw.”

“Yrof a Duw,” heb y Bantillas, vn o doethon Rufein, “pei rodut attaf i dy uab ar uaeth, mi a dysgwn idaw kymeint ae a wn i, mi a'm whech kedymdeith, erbyn Penn y seith mlyned.” " Ie,” heb yr Awgustus, “roder attaf i y mab, ac ar benn y whech blynedd mi a baraf idaw gwybot kymeint ac a wdain ni yn seith.” Heb y Kato, “Herwyd y messureu a gymero y mab o’e ethrylith a’e adysc, herwyd hynny yd adawaf i y dysgu.” “Os attaf i y rodir ar uaeth,” heb y Iesse, “mi a’e dysgaf yn oreu y gallwyf, os mi a vyd tatmaeth idaw.”

Agwedy daruot y bop un o’r whegwyr adaw dysgu y mab yn y mod goreu y gellynt, yna y kafas yr amherawdyr yn y gyghor rodi y uab ar uaeth attunt eli seith. Ac adeilat ty a wnaethpwyt udunt ar lan auon Tyber odieithyr Rufein, yn lie karueid erdrym gwastatsych. Ac wynt a ysgriuennassant y seith gelfydyt ygkylch ogylch y ty, ac a dysgassant y mab yny oed aeduet y synhwyreu a chymhendoeth y barableu ac arafgaii y weithredoed.

Ac yn yr amser hwnnw yr amherawdyr a briodes gwreic. A gwedy y dwyn y iys a chysgu genti, amovyn a wnaeth hi ac un ac arall a oed etiued y’r amherawdyr. A diwarnawt y deuth hi y ty wrach heb un dant yn y phenn, a dywedut wrth y wrach: “Yr Duw, mae blant yr amherawdyr?” “Nyt oes idaw vn mab,” heb y wrach. “Gwae vinneu,” heb hi, “y uot ef yn anuab.” Yna y dyw[529]awt y wrach, “Nyt reit itti hynny; darogan yw idaw gaffel plant. Ac atuyd ys ohonat y keiff, kyn nys kaffo o arall. Ac na uyd drist, vn mab yssyd idaw ar uaeth gan doethon Rufein.” Ac yna y doeth hi y’r ilys yn llawen orawenus, a dywedut wrth yr amherawdyr: “Pa ystyr y kely di dy blant ragof i?“ heb hi. “Nys kelaf ynneu bellach,” heb ef, “ac auory mi a baraf anuon yn y ol."

A’r nos honno, ual yd oed y mab a’e athrawon yn gorymdeith, wynt a welynt yn eglurder y syr a chyffroedigaeth y sygneu y bydei wr dihenyd y mab ony bei amddiffyn kymen arnaw. A’r mab hefyt a welas hynny. Ac ef a dywawt wrth y athrawon: "Pei amdiffynnewch chwi vyui y seith niwarnawt oc awch doethineb, minne vy hunan a’m amdiffynnwn yr wythuet dyd.” Ac adaw y amdiffyn a wnaethant.

A thrannoeth, nachaf gennadeu y gan yr amherawdyr y erchi udunt dwyn y mab y dangos y’r amherodres newyd. A gwedy y dyuot y’r neuad a’e ressawu o’e dat a’r niuer, ny dywat ef un geir mwy no chyt bei mut. A drwc yd aeth ar yr amherawdyr welet y uab yn vut. Ac erchi y dwyn y dangos y lysuam. A hitheu pan y gwelas a fllemychawd o’e garyat, ac a’e duc y ystauell dirgeledic. A thrwy gytkam garyat geireu serchawl y dywawt hi wrthaw ef. A’r gwas a’e tremygawd ac a edewis y ty idi. A hitheu, pan welas y thremygu, a dodes diaspat uchelgroch oruchel, a than ysgythru y phenn o’e hardunyant a’e gwisgoed, a gwneuthur gwallt melyn yn uonwyn briwedic, a cbyrchu tuac ystauell yr amherawdyr. A ryued nat oed yssic penneu y byssed, rae ffestet y maedei benneu y byssed a’e dwylaw y gyt, yn mynet y gwynaw treis a gordwy wrth yr [530] amherawdyr rae y uab, a dywedut y uot ef yn keissaw dwyn treis erni.

Ac yna y tygawd yr amherawdyr trwy lit y llw mwyhaf, vn am uudanyaeth y uab, nat oed waeth gantaw y uarw no'e vyw; yr eil o aehaws sarhaet y urenhines, na bydei y encit yndaw hwy noc hyt trannocth.


[1. Arbor.]

A’r nos honno y dywawt yr amherawdres wrth yr amherawdyr “Ef a deruyd itti am dy uab ual y daruu gynt y’r prenn pinus mawr o aehaws y pinwyden veehan a oed yn tyuu yn y hymyl, a cheing o’r uawr yn llesteiraw ar y vechan dyfu. Ac yna yd erehis y bwrgeis bioed y gwyd y ardwr torri keig o’r binwyden hen, a oed yn llesteiryaw ar y ucchan kyuodi. A gwedy torn y geig, y prenn yn gwbyl a gninawd, ae yna’ yd erchis y torri oil. Megys hynny y deruyd y titheu am dy vab a rodeist y ueithryn att y seithwyr doeth. Yr collet itti y mae ef dan gel yn keissaw duundeb y gwyrda y’th distriw di, ae y wledychu ehun heb olud.”

A llityaw a oruc yr amherawdyr, ac adaw y diuetha trannoeth. A gwedy treulaw y hwnnw a’ r nos honno ar ardunyant digrifwch y’r vrenhines, yn ieuegtit y dyd drannoeth y kyfodes yr amherawdyr visgaw ymdanaw a chyrchu y dadleudy. ar hynt, gofyn y’r doethon pa adoet a wneit ar y vab ef.

Ac yna y kyfodes Bantillas y uynyd y dywedut ual hynn: “Arglwyd amher,“ heb ef, “Os o achaws mudanyaeth y mab y dihenydyir, iawnach yw bot drugarawc wrthaw am hynny no bot yn greulawn. Kanys gorthrymach yw idaw ef yr anaf hwnnw noe y neb. Os am guhudet y urenbines, vn ffunut [531] y deruyd ytti am dy vab ac y daruu gynt y uarchawc arderchawc bonhedic am vilgi a oed idaw.” “Beth oed hynny?” heb yr amherawdyr. “Ym kyffes! nys managaf itt, ony rody dy gret na dihenydyer y mab yn oet y dyd hediw.” “Na dihenydyir, myn uyg kret!” heb ef, “a dywet ym dy chwedyl.”


[2. Canis.]

“Yd oed’ gynt yn Rufein marchawc a e lys wrth ystlys y gaer. A dydgweith yd oed twrneimeint ac ymwan yrwng y inarchogyon. Sef a wnaeth yr amherotres a’e thylwyth, mynet hyt ar uan y gaer y edrych ar yr ymwan, heb adaw undyn yn y llys onyt vn mab y marchawc yn kyscu y mywn crut, a’e vilgi yn gorwed yn y ymyl. A chan weryrat y meirch, ac angerd y gwyr, a thrwst y gwaewyr yn kyflad wrth y taryaneu eurgrwydyr, y deffroes sarff o uur y kastell, a chyrchu neuad y marchawc. Ac arganuot y mab yn y krut, a dwyn ruthur idaw. A chynn ymgael ac ef, bwrw o milgi buanllym neit idi. A chan eu hymlad ac eu hymdaraw, ymchoelut y crut a’e wyneb y waeret, a’r mab yndaw. A’r ki buanllym bonhedic a ladawd y sarff, a’e gadaw yn drylleu man yn ymyl y krut. A phan doeth yr arglwydes y mywn ac arganuot y ki a’r krut yn waetlyt, dyuot yn erbyn y marchawc y dan leuein a gweidi y gwynaw rac y ki a ladyssei y un mab. A’r marchawc trwy y lit a ladawd y ki. Ac yr didanu y wreic, ef a deuth y edrych y uab. A phan deuth, yd oed y mab yn holliach y dan y crut a’r sarff yn ddrylleu man yn y ymyl. Ac yna yd aeth yn drwc ar y marchawc had ki kystal a hwnnw o eir ac annoc y wreic. Vehly y [532] deruyd y titheu o lad dy vab o guhudet ac annoc dy wreic.”

Ac yna y tyngawd yr amherawdyr na ledit y mab y dyd hwnnw. A gwedy teruynu eu kyghoreu ac eu dadleueu, y’r y deuthant. A phan wybu yr uot yn well gan yr amherawdyr no bwyta, kyntafymdidan a oruc hi, idaw a dihenydywyt y mab. “Nado, vyg kret!” heb ef. “Mi a wn, hi, “pan yw doethon Rufein a beris hynny. Vn ansawd, hagen, y deruyd ytti gredu udunt hwy ac y daruu gynt y’r baed koet am y bugeil.” “Pa delw uu?“ heb yr amherawdyr. “Myn vyg cret! nys dywedaf, ony rody dy gret ar dihenydyaw y mab auory.” “Dihennydyir, myn uyg kret!” heb ef.


[3. Aper.]

“Llyma y chwedyl,” heb hi. “Prenn perffrwyth brieawclas a oed y mywn fforest yn Ffreinc. A’r baed ny mynnei ffrwyth prenn yn y coet namyn ffrwyth y prenn bwnnw. A dydgweith yd arganuu y bugeil y prenn, a gwelet y ffrwyth yn dec ac yn garueid velys aeduet, a ehynullaw coeleit o’r ffrwyth. Ac ar hynny, nachaf y baed yn dyuot. Ac fly chauas y bugeil o ennyt onyt drigyaw y vric y prenn rae ofyn y baed, a’e goeleit gantaw. A’r baed, gwedy na chafas y frwyth megys y gordyfnassei, ffroeni ac ysgyrnygu danned a oruc. Ac arganuot y bugeil ym brie y prenn, a thrwy y lit dechreu diwreidaw y prenn. A phan. welas y bugeil hynny, gellwng y frwyth y’r baed a oruc. A’r baed, pan gafas dogyn, ef a gysgawd dan vric y prenn. Ac ac ef yn kysgu y disgyn y bugeil y’r llawr, ac a dyr breuant y baed a chyllell. Velly y deruyd y uaed Rufein, ac y dygir frwyth yr amberotraeth y gantaw.”

“Myn vyg cret!" heb yr amherawdyr, “fly byd byw hwy floe auory.” Trannoeth, trwy y lit, kyrchu y dadleudy a oruc yr amherawdyr, ac ar hynt erchi dihenydyaw [533] y vab. Ac yna y kyfodes Awgustus y uynyd a dywedut ual hyn. “Arglwyd,” heb ef, “fly wnel Duw ytti wneuthur am dy uab megys y gwnaeth Ipokras am y nd.” “Beth oed hynny?” “Myn uyg kret! nas managaf, ony rody dy gret na dihenydyer y mab hediw.” “Na dihenydyir, myri vyg cret!”


[4. Medicus.]

“Nei uab chwaer oed y Ipokras. A goreu ffusugwr oed o’r byt. A gwedy anuon kennat o vrenhin Ugarie y erchi y Ipokras dyuot y iachau mab a oed idaw yn glaf diobeith, ny’ allawd ef uynet, namyn ellwg y nei yno. A’r gwas, pan doeth y’r llys, ef a vyryawd olwc ar y brenhin a’r urenhines ac ar y mab. A gwedy na welas ef dim o annyan y brerihin yn y mab, gofyn wnaeth y uam y mab pwy oed y dat, kany allei ef y uedeginyaethu ef yny wypei anyan a natur y genedyl yd hanoed ohonei. Ac yna y dywawt hitheu y gael ef o orderchat o Iarll Nawern. Ac yna y peris ef rodi kic ych ieuanc yr mab, yny uu holliach. A gwedy y dyuot atref y gofynnawd y ewythyr idaw pa wed yd iachaawd y rnab. ‘A chic ych ieuanc,’ heb ef. ‘Os gwir a dywedy was,’ heb ef, ‘o odineb y kaffat ef.’ wir yw,’ heb y mab. A phan welas y mon geluyd a hynny, medylyaw a oruc y lad, ac erchi idaw dyuot y orymdeith y gyt ac ef. A gwedy eu dyuot y le disathyr dirgeledic, dywedut wrth y nei ‘ Mi a gtywaf,’ heb ef, ‘arogleu llysseu da.’ ‘Minneu a’e clywaf,’ heb y mab, ‘ate mynny di wyntwy?’ ‘Mynnaf,’ heb ef. Ac a’r mab yn gostwng y uedi y llysseu, y urathü a chyllell trwydaw yny dygwyd yn uarw y’r llawr. Ac yna y caplawd pawp Ipokras, ac yd emelldigwyt. Ac uelly, arglwyd amherawdyr, y deruyd y titheu ac yd emelltigir, o phery dihenydyaw dy uab ac ef yn winion.”

“Na pharaf, myn vyg cret I” heb ef. A’r nos honno, gwedy daruot bwyt, gofyn a oruc yr [534] amherodres a daroed dihenydyaw y mab. “Na deryw,” heb yr amherawdyr. “ Ic,” heb hi, “doethon Rufein a beris hynny. Ac un ffunut y deruyd itti o gredu udunt am dy uab ac y daruu gynt y wr a ladawd y uab y benn, a’e gladu yn yr ysteuyll bychein.” “Pa delw uu hynny ?“ heb ef. “Myn vyg kret! nys dywedaf, ony rody dy gret ar dihenydyaw y mab avory.” “Llyma vyg cret y dihenydyir.”


[5. Gaza.]

“Mi a gigleu gynt uot amherawdyr yn Rufein, a chwannockaf dyn o’r byt y da bydawl oed. A gwedy daruot idaw kasglu a chynnull lionejt twr o cur ac aryant a thiysseu mawrweirthawc, ef a ossodes kebyd kyfoethawc ofnawc yn geitwat ar y da. Sef yd oed gwr godlawt calionawc yn y dinas, a gwas ieuanc dihauarchlym yn uab idaw. A’r gwr a’e uab a doethant hyt nos am benn y twr ac a’e torrassant, ac a dugant a vynassant o’r da. A thrannoeth, pan deuth y keitwat y edrych y twr, neur daroed dwyn diuessured o’r da yn lietrat. Ac yna yn ystrywgail, medylyeit a oruc y keitwat, a gossot kerwyneit o lut ardymeredic gerbronn y twr yn y lie y torryssit, y edrych pci kaffei y hadron y dangos y’r amherawdyr rae y amheu ef. A’r hadron, gwedy treulaw y da hwnnw ar tir a dayar a thei a phlasseu ac wrth eu digrifwch, wynt a deuthant drachefyn tu a’r twr. Ac ac wynt ae eu hysgafel gantunt kyrchu allan, fly wybu y tat vn geir yny byt y wregis yn y gerwyneit lut. Ac gofyn kyghor a oruc y uab. ‘Nys gwn,’ heb y mab, ‘onyt torn dy benn a chledyf gudyaw yn lie dirgei. Kanys o’th ‘diwedir’ a’th eneit ynot, dy gystudyaw wneir itt, a’th boeni yny adeuych y da. c yna y menegy ditheu.’ ‘Och ! arglwyd uab,' heb ef, ‘nyt uehly y gwney a ml. ugarockaf gwr o’r byt yw yr amherawdyr, da yssyd barawt, a’m eneit a gaffaf ynneu [yr] y eturyt drachefyn.’ ‘Myn y gwr y credaf idaw!’ heb y mab, ‘ny [535] byryaf y ri pheth yn antur yr had dy benn y arnat.’ Pa tn pheth yw y rei hynny?’ heb y tat. ‘Y da kyndrychawl yssyd gerinyf, a’m eneit vy hun, a’r tir a’r trefneu a bryneist ditheu.’ Ac yn greulawn estrongar had penn y dat y arnaw. Vehly y peir dy uab dy lad ditheu o chwant a charyat dy deyrnas, yssyd well no’r swhlt.”

“Myn uyg cret!” heb ef, ny byd y eneit yndaw hwy noc hyt auory.” A thrannoeth pan welas y dyd, kyrchu y dadleuty ae erchi dihenydyaw y mab. Ac yria y kyuodes Lentillus y uynyd a dywedut val hynn. “Arglwyd amherawdyr,” heb ef, “un ansawd y deruyd ytti, o phery dihenydyaw dy uab, ae y daruu gynt y hen wrda kyuoethawc am wreic ieuanc dec a oed idaw a garei yn vawr.” “Beth oed hynny?” heb yr amherawdyr. “Myn Duw! nys managaf, ony rody dy gret na dihenydyer y mab hediw.” “Na dihenydyir, myn vyg kret! a dywet ym dy chwedyl.”


[6. Puteus]

“Hen wrda bonhedic oed gynt, ac ef a briodes morwyn ieuanc vonhedic. Ac fly bu hir gwedy eu dyuot y gyt yny vyryawd lii serch lledradeid ar was ieuanc o lys yr arglwyd. A gossot eluyd ac ef a wnaeth. Ac ygkylch y rann gyntaf o’r nos, pan oed drymaf hun y gwr, y kyuodes hi y vynyd, ac y deuth att y gorderch. Ac fly bu hir gwedy y mynet yny dyffry y gwr, ac ymtroi yn y wely. Ac ual ryued uu gantaw clybot y wely yn wac o e gymar. A thrwy lit ac ediged y kyfodes y uynyd a cheissaw y ty amdanei. A gwedy nas kauas, y deuth ef drachefyn tua’r drws, a chaeu y drws yn gadarn, a thygu trwy y lit na sagei hi y ty hwnnw tra uei vyw. A hitheu, gwedy ymlenwi yn digrifwch serchawl gyt a’e gorderch, ychydic kynn y dyd y deuth tua’r drws. A gwedy na welas y drws yn agoret, erchi agori a oruc. ‘Llyma vyg cret,’ heb y gwr, ‘nat agorir y ty yma ragot ti y’th oes. Ac auory, yg [536] gwyd dy genedyl, mi a baraf dy lebydyaw a mein. Llyma vyg kret,’ heb hi, ‘vot yn gynt y byrywn neit o'r lle yd wyf yn y bysgotiyn yma y’m bodi, noc yd arhown yr adoet hwnnw arnaf i.' Ac arganuot maen mawr yn y hymyl a wnaeth, a dyrchauel y maen mawr ar y hysgwyd a’e vwrw yn y llyn, yny glywit y kwymp dros yr holl lys. A gwaethaf yn y byt yd aeth arnaw ef hynny, a dyuot allan a oruc y edrych a ordiwedei yr eneit yndi. A hitheu yn gyflym diueryawc a aeth y mywn, a chaeu yn gadarn erni, a’e uegythyaw ef am torri y briodas ac adaw y ty a’e wely amser hwnnw yn y nos. A thrannoeth, yg gwyd brawtwyr y dinas a’r swydogyon, y bu reit y’r gwr diodef y poen a’r dial a dylyei hi y gael am y drygeu. Ac uelly y siomha dy wreic ditheu am dy uab; a hi yssyd drwc a chamgylus, a’r mab yssyd ar r iawn."

“Myn uyg cret!" heb ef, “ny dihenydyir ef hediw.” A gwedy bwyt y dywawt y urenhines “Mi a wn,” heb hi, “na adawd doethon Rufein dihenydyaw y mab bediw.” “Nado,” heb ef. “Myn vyg cret!" heb hi, “un funut y deruyd itti, o gredu udunt am dy uab, ac y daruu gynt y vn o dinaswyr Rufein am pren ffrwythlawn bricawclas a oed annwyl gantaw.” “Beth oed hynny?” heb yr amherawdyr. “Llyma uy ffyd nas dywedaf, ony rody dy gret ar dihenydyaw y mab auory.” “Myn vyg kret !“ heb ef, “y dihenydyir.”


[7. Ramus.]

“Llyma y chwedyl,” heb hi. “Y wr o Rufein yd oed prenn perffrwyth yn tyfu yn y erber, a cheing unyawn dec yn kyuodi o von y prenn ac yn kyrchu y’r awyr. Ac od oed annwyl gan y gwr y prenn a’r ffrwyth, annwylach oed y geing o achaws y thecket. ‘Yrof a Duw!’ heb y gardwr, ‘bei vyg kyghor a wnelut, ti a barut torn y geing y wrth y prenn.’ ‘Pa [537] ham?’ heb ef. ‘Am na tiogel ytt gaffel ffrwyth y prenn tra vo y geing racko yn ysgynnprenn ac yn ganhalprenn drycdynyon a hadron, ac nat oes fford y drigyaw y’r prenn nac y gaffel y ffrwyth onyt trwy y geing racko.’ ‘Myn uyg cret !' heb ef, ‘fly thorrir dim o geing yr hynny mwy no chynt.’ ‘A bit uelly,’ heb y gardwr. A’r nos honno ef a deuth hadron y’r prenn a’e yspeilaw o ffrwyth, a’e adaw ynteu yn amnoeth bricawcdwn erbyn trannoeth y bore. Ky noethet a hynny y gedeu doethon Rufein ditheu o ffrwyth dy deyrnas ony ledy y geing gan dy uab.”

“Lledir, myn vyg cret ! avory y bore,” heb ef, “ac wynteu kymeint vn.” A thrarinoeth, trwy lit ac annoc y vrenhines, kyrchu y dadleudy a wnaeth yr amherawdyr, ac erchi dihenydyaw y uab, a doethon Rufein y gyt ac ef. Ac yna y kyuodes Malqwidas a uynyd-gwr aduwynbrud oed hwnnw- a dywedut ual hynn. “Arglwyd amherawdyr,” heb ef, “os o annoc dy wreic a'e chuhudet y pery dihenydyaw dy uab, ef a’th syomir ual y syomes y bleid y bugeil.” "Pa wed uu hynny?” heb yr amherawdyr. "Myn vyg kret!” heb ef, “nys managaf, ny rody dy gret na dihenydyer y mab.” Na dihenydyir, myn uyg cret! a manac m dy chwedyl.”


[8. Roma-lupus.]

“Llyma y chwedyl,” heb ef. “Namyn dinas kyfoethawc kadarn a oed yn y dwyrein, a seithwyr kymhendoeth synnhwyrus a oedynt yn kadw ac yn hlywyaw y dinas. Ac nyt yn y kaerwyr a’r dinasswyr yd oed gedernit y dinas, namyn yn doethineb y gwyr a’e kymhendawt. Ac yn hynny y deuth brenhin creulawn kadarn y geissaw goresgyn y dinas. A gwedy eisted yn y gylch a gossot peiranneu wrthaw, ny thygyawd y’r brenhin dim, rae kymhennet y gwyr o vywn yn kadw eu dinas. A phan welas y brenhin ystrywgar na cheffit y dinas o ymlad, [538] ef a wnaeth yn diueryawc adaw kihiaw y wrthaw, ac nat ymladei a niuer y dinas, yr anuon attaw ef y seithwyr uchot. A’r bobyl disynhwyr, heb welet y brat a’r dolur a oed ygkud y dan y deil, a gredassant kelwyd a ffalsted edewidyon y brenhin, ac a gymerassant y gwyr ac a’e rwymassant, ar uedwl eu hanuon idaw allan. Ac yna y kyuodes un o’r doethon y uynyd ac y dywawt ual hynn: ‘Ha I wyrda,’ heb ef, ‘un ansawd y deruyd y chwi o gredu y’r brenhin creulawn racko, gwedy y rodoch nyni yn y uedyant, ac y somhes gynt y bleid y bugeil?’ ‘Pa wed uu hynny?’ heb wynteu.

‘Bleid creulawn enwir a oed yn keisaw kyfle a chyflwr ar y bugeil a’e aniueileit y eu had. Ac ny adei gauaeigwn buanhlym oed y’r bugeil seibeint idaw, nac yg koet nac ym maes. A’r bleid pan welas hynny a edewis hedwch a thagnefed tragywydawl y’r bugeil a’e ysgrybui yr daia y kwn a'e rwymaw a’e rodi attaw ef. A’r bugeil ynuyt a gredawd y eireu kelwydawc y bleid, ac a anuones y kwn y’r bleid. Ac ynteu yn gyflym a ladawd y kwn, a gwedy hynny yr yscrubyl, ac o’r diwed y bugeil. Velly y had y brenhin ereulawn racko chwitheu oil o chredwch idaw, gwedy darffo idaw yn had nyriheu.’

‘Byw yw Duw, o chredwn idaw nac o’ch rodwri chwitheu vyth yn y uedyant.’ Ac yna o’e kyghor hwy y goruuant arnaw ef ac y llas. Hynn, arglwyd, a dywedat ytt yn wir. Megys y mynassel ef eu llad hwy bei credassynt idaw, ac ual y lladawd y bleid y bugeil o gredu idaw, velly y llad dy wreic ditheu o chredy idi, ac o phery an had ninheu o'e hannoc.”

"Na pharaf, myn vy ffyd!” heb ef. Ac yna gwedy daruot bwyta y dywawt y urenhines wrth yr amherawdyr ual hynn. "Megyrs y tyn arogleu y deil a’r blodeu yr at y ar [539] ydrywed, yny gollo y llwdyn gantaw, velly y mae doethon Rufein y'th tynnu ditheu o eireu tec a pharableu eureit am dy uab, yny gohlych dy vrenhinyaeth a’th gyuoeth. Kanys vn ansawd y deruyd itti, o gredu udvnt hwy, ae y daruu nt y Rassiafl amherawdyr. “Beth uu hynny?" heb ef. “Llyma vy ffyd,” heb in, “nas dywedaf, ony rody dy gret ar dihenydyaw dy uab auory. Dihenydyir, myn uyg cret! a pha delw uu hynny?”


[9. Virgilius.]

“Llyma y chwedyl,” heb hi. “Fferyll,” heb hi, “a ossodes eolofyn ym perued Rufein, ac ar benn y golofyn drych o geluydyt igyrmars. Ac yn y drych y gwelas senedwyr Ruuein, pa deyrnas bynnac a geisynt, na wrthwynepei neb udunt. Ac yna yn gyflym yd eynt am benn yr honn a uynnynt, ac y darestygynt hi udunt. A’r golofyn a’r drych a oedynt yn peri y pob teyrnas ofynhav rac gwyr Ruuein yn vwy no chynt. Ac yna y kynnigyawd brenhin y Pwyl anneiryf o da y’r neb a gymerei arnaw diwreidaw y golovyn a thorn y drych. Ac yna y kyuodes deu vroder vn uam y uynyd a dywedut ual hynn. ‘Arglwyd vrenhin,’ hcb wynt, ‘pei caffem ni deu peth ni a diwreidem y golofyn.’ ‘Pa wed yw hynny?’ heb ef. ‘Yn dyrchafel ar urdas ae anryded a vei vwy rae llaw, a chyfreideu kyndrychawl yssyd neit yr awr honn?’ ‘Beth yw hynny?’ heb ef. ‘Dwy vanileit o eur,’ heb wynt, ‘kanys chwanockaf dyn o’r byt y cur yw Gracian amherawdyr.’ ‘A hynny a geffwch,’ heb y brenhin. Ac eur a bent udunt. Ac wynteu a gyrchassant a’r cur tua Ruuein, ac hyt nos hwynt a gladassant y dwy uanil yn ymyl y dinas ger llaw prifford. A thranoeth, wynt a deuthant y’r llys, a chyf [540] arch gwell y’r amhenawdyn ac ymgynnic yn wyr idaw. ‘Pa wassanaeth neu pa geluydyt a wdawch chwi, pan gymerwyf i chwi yn wyn yin?’ ‘Ni a wdam,’ heb wynt, ‘a uo cur ac aryant kudyedic y’th teyrnas, a ni a barwn itt y gad o gwbyl.’ ‘Ewch chwi heno gwedy awch bwyt tua’eh llety, ac ednychweh erbyn auory a vo cur kudyedic y’m kyuoeth. Ac or byd, menegwch yin, ae o chaffaf hynny yr win, mi a’ch kyineraf yn anwyleit ym.’ Ac ymeith yd acthant y lletty. A thranoeth y deuth y mab ieuaf hyt rac bron yr amherawdyr, a dywedut rygael ohonaw ef ar y dewindabaeth bot barileit o eur yn ymyl porth y dinas yghud. Ac yna yn diannot y peris yr amherawdyr uynct y geissaw hwnnw. A gwedy y gael a’e dwyn idaw kymerth y gwas yn annwyl idaw. A thrannoeth y deuth y mab arall a dywedut rygael ohonaw ef an y vreudwyt bot barileit o eur yghud yn y porth arall y’r dinas. A gwedy proui hynny a’e gael yn win, credadwy uu y gweisson a hoff gantaw o hynny allan, a’e kymryt yn annwyleit idaw. Ac wynteu yna a dywedassant bot o eur y dan y golofyn a waredei y deyrnas yn dragywyd. Ac yna y dywawt senedwyr Rufein, o diwreidit y golofyn, na bydei gyn gydarnet Ruuein o hynny allan a chynt. Ac ny adawd chwant eur ac aryant y’r amherawdyr uot wrth gyghor y gwyr hynny. Diwneidwyt y golofyn, a hynny a tyrr y drych. A drwc yd aeth ar senedwyr Ruuein hynny. Ac yn gyflym dyuot am y benn a’e dala a’e rwymaw, a chymell arnaw yuet eur brwt [541] gan dywedut wrthaw ual hynn: 'Eur a whennycheist, eur a uynny.’ Velly ny at dy chwant ditheu y wanandaw doethon Rufein, y rei yssyd y’th dihinyaw ac eureit barableu, y [ti] gredu uyg kyghoreu i am dihenydyaw dy uab, yny wnelont dy agheu a’th adoet yn dybryt.”

“Myn uyg kret,” heb ef, “fly byd byw eithyr hyt auory.” A thrannoeth y bore, kyntaf peth a wnaeth ef, erchi dihenydyaw y mab. Ac yna y kyfodes Kato Hen, gwr kymhendoeth, a dywedut ual hynn. “Arglwyd amherawdyr, nyt yn ol ymadrod­yon ffalst kelwydawc a glywho dy glusteu y dylyy” uarnu, namyn trwy anmyned, a cheissaw gwirioned y uarnu gwir yrwng hen a ieuanc. A chy aghywiret vyd dy wreic itti, yr honn yd wyt yn y charu ac yn y chredu, ac y bu wreie i sirif o Lesodonia.”

“Kato Hen,” heb yr amherawdyr, “pa wed uu hynny?” “Llyma vy ffyd nas managaf, ony rody dy gret na dihenydyer y mab hediw.” “Na dihenydyir, myn uyg cret !“ heb ef. “Llyma y chwedyl,” heb ef.


[10. Vidua.]

“Yd oed gynt gwas ieuanc o Ruuein yn syryf o Lesodonia. A diwarnawt yd oed yn nadu paladyr, a’e wreic yn kytkam ac ef, ac ef yn gware a hi. Ac yn hynny ef a gyfaruu blaen y gyllell ef a’e llaw hi yny doeth y gwaet. A chyndrwc yd aeth arnaw ef hynny a’e vrathu ehun a wnaeth y dan y vron a’e gyllell, yny dygwyd yn varw y'r llawr. A gwedy gwneuthur y gyweirdeb a'e wassanaeth yn y llys, ef a duepwyt tu a’r llan y gladu. A ryfed nat oed yssic penneu y byssed, rae ffesdet y maedei y dwylaw y yt yn kwynaw y gwr. Vch oed bop llef a diaspedei floe a oed o gorn a ehloeh dros wyneb yr holl dinas. A gwedy eladu y gwr a chilyaw pawb o’r eglwys, y main a erchis y’r unbennes dyuot gyt a hi atref. Hitheu a tygawd y’r gwr a oed ueh penn [542] nat aei hi odyno yny uet varw. ‘Ny eily di,’ heb y main, ‘gywiraw y geir hwnnw. Ac am hynny iawnach yw ytt dyuot y’th lys dy hun y gwynaw dy wr, no thrigyaw yn lie ofnawc aruthur mal hwnn mor ume a hynny.’ ‘Mi a brofaf a’e gallwyf,’ heb hi. Ac yna y pens y main kynneu tan goleu abrwsgyl ger y bronn, ae adaw bwyt a diawt y dreulaw pan delei newyn arnei wrth na chyfeireh newyn y borthi. A’r nos honno yd oed marehawe pedrydawe kadarn o’r gaer yn gwyiat herwyr a grogyssit y dyd hwnnw. Ac ual y byd yn troi o bell ac o agos, ef a welei oleuat amlwc yn y lie nys gwelsei kyn no hynny eiryoet. A brathu y uareh a wnaeth y edrych pa le yd oed y tan, a pha achaws y gwnathoedit. A phan deuth, ef a welei mur a inynnwent ae eglwys, a than uchel goleu yn yr egiwys. A ffrwynglymu y uarch a oruc ef wrth porth y uynnwent, ac yn y aruot a e arueu dwyn hwyl y’r egiwys y edrych pwy oed yndi. A phan deuth, nyt oed namyn morwynwreic ieuanc yn eisted oduch bed newyd gladu a than goleu diuwc rac y bronn, a dogyn o vwyt a diawt yn y hymyi. A gofyn a wnaeth ef beth a wnaei dyn mor ieuanc o oetran a mor dinerth o gorff a mor adfwyn o bryt yn lie mor ofnawc a hwnnw ehunan. Ac yna y dywawt hitheu nat oed erni ofyn kymeint a hwyret yd oed agheu yn dyuot idi. A’r marchawc a ofynnawd idi py achaws oed hynny. ‘Cladu,’ heb hi, ‘y gwr mwyaf a gereis yr­moet, ac a garaf tra uwyf vyw, yn y lie hwnn hediw. Diogel uu garu ohonaw ynteu vinneu yn vwy no neb, pan dyckei y adoet ehun o’m achos ynneu.’ ‘A! vnbennes,’ heb y marchawc, ‘pei vyg kyghor a wneiut, ti a drout o’r medwl hwnnw, ac a gymerut gwr a uei gystai a’th wr dy hun, neu a vei well.’ ‘Na uynnaf, [543] myn y gwr yssyd vch penn! gwr vyth gwedy ef.’ A gwedy ymdidan rynnawd onadunt, y marchawc a gyrchawd tua’r crocwyd. A phan deuth ef athoedit ac un o’r hadron ymeith. A drwc yd aeth arnaw ef hynny; kanys gwassanaeth y marchawc oed, dros y dir a’e dayar, kadw gwyr bonhedic a grockit rac eu dwyn o’e kenedyl y eu kladu. A thrachefyn y deuth ef att yr unbennes, a menegi y gyfranc a’e damwein idi. ‘Pei rodut dy gret ar vym priodi i, ml a’th rydhawn o’r pwnc hwnnw.’ ‘Llyma vy ffyd,’ heb ef, ‘y’th priodaf.’ ‘Llyma uai’ ffy gwneiych.’ heb hi. ‘Datciad y gwr ysyd yma, a chroc ef yn lle yr herwr. A hynny nys gwybyd neb onyt ni yn deu.’ A datkiadu y pwll a wnaeth ef yny doeth tua’r corff. ‘Llyma hwnn,’ heb ef. ‘Bwrw y uynyd,’ heb hitheu. ‘Ym kyffes!’ heb ef, ‘haws oed gennyf i ymlad a thrywyr byw no dodi vy liaw ar ungwr marw.’ ‘Mi a’e dodaf’ heb hi. A bwrw neit esgutlym yn y pwil, a thaflu y corff y uynyd hyt ar lan y pwil. ‘Dwc di ef bellach tua’r crocwyd,’ heb hi. ‘Nys gwyr Duw,’ heb ef, ‘ymi nac y’m march ailel ymdeith onyt yn anawd rac ineint yssyd o arueu ymdanam.’ ‘Mi a’e gaiiaf,’ heb hi. ‘Dyrchaf di ef ar vy ysgwyd.’ A gwedy y gaei ar y hysgwyd, hi a gerdawd brasgameu gwrawidrut ac ef yny deuth hyt y crocwyd. ‘Och!’ heb y marchawc, ‘pa da o hynny? Yd oed dyrnawt cledyf ar penn yr herwr.’ ‘Taraw ditheu,’ heb hi, ‘dyrnawt ar penn hwnn.’ ‘Na thrawaf, yin kyffes!’ heb ef. ‘Yin kyffes!’ heb hi, ‘mi a e trawaf.’ A tharaw dyrnawt mawr a’e giedyf ef ar Penn y gwr. ‘Ie,’ heb y marchawc, ‘pa da o hynny? Yd oed yr herwr yn vantach.’ ‘Minneu a wnaf hwnn yn vantach,’ heb hi. A chad maen mawr, a dyrchauel llaw arnaw yny vyd lledyr [554] y weuusseu a’e danned yn drylleu o angerd a chedernit y dyrnawt. ‘I;’ heb y marchawc yna, ‘aruoel oed yr herwr.’ ‘Minneu a wnaf hwnn yn aruoel.’ heb hi. A chymryt Penn y gwr yrwng penn y deulin a’e deu troet wrth y dwy ysgwyd. Na gwreic yn kneifaw na gwr yn eillaw, fly bu yr vn gynt yn hunyo penn y gwr no hi. Ac ar uyrder, o’e dal hyt uchafyon y iat nyt edewis un blewyn heb y dynnu ymeith, mwy noc y gedeu y memrennyd ar y memrwn. A gwedy daruot idi hyriny, hi a erchis y’r marchawc y grogi. ‘Llyma vyg cret nas crogaf, ac nas crogy ditheu. A phettut un wreic di o’r byt, fly mynnwn i dim ohonat ti. Kanys pan vydut ti mor agkywir a hynny wrth y gwr a’th priodes yr yn verch, ac a duc y adoet o’th garyat, ys agkywir a beth vydut ti ymi, heb welet golwc arnaf eiryoet hyt heno. Ac am hynny dos di y fford y mynnych, wrth na mynnaf i dydi byth.’ Ym kyffes i y Duw, arglwyd amherawdyr, kyn aghywiret a hynny rae llaw vyd y wreic yd wyt yn pen dihenydyaw dy uab yr awr honn o’e hachaws.”

“Llyma vyg cret na dihenydyir,” heb ef. A gwedy daruot bwyta, y vrenhines a ovynawd y’r amherawdyr a daroed dihenydyaw y mab. “Na derw,” heb ef. “Ny deruyd byth,” heb hi, “tra uo byw doethon Ruuein. Kanys megys y tynn y vamaeth y mab y ar y lit a’e gyffro trwy sonyaw a thrabludyaw yn y glusteu neu dangos ryw betheu ffol massw idaw, velly y mae doethon Ruuein y'th tynnu titheu y ar dy gyffro am vyg gwaratwyd i a’m kewilyd gan dy uab, trwy eu son a’e hymdidaneu ar yr ryw liw [545] ar gelwyd a dangossant ytt. Ac un ansawd y deruyd ytt o’r diwed, o gredu udunt, ac y daruu gynt y’r brenhin a welei trwy y hun y dallu beunoeth.” “Pa delw oed hynny?” heb yr amherawdyr. “Llyma vyg cret nas managaf, ony rody dy gret ar diua y mab auory.” “Llyma vyg cret y diueir,” heb ef.


[11. Sapientes.]

“Yd oed brenhin gynt ar vn o dinassoed Rufein, ac ef a ossodes seithwyr y Iywyaw y dinas. A’r gwyr a ymrodes y gynnuUaw eur ac aryant a thlysseu, yny oed gyfoethogach y tlotaf onadunt o da kyndrychawl no’r brenhin. A hynny a wnaethant hwy o’e kyt gyghor ual y keffynt had y brenhin a rannu y urenhinyaeth yryngtunt, a hynny o nerth a chedernit eu da. A pheunoeth y gwelei y brenhin, trwy y hun, peir a seith troet [ydanaw, a mwc] yn kyuodi ohonaw, yn vn ffunyt a chyt bei ffyryfdan kadarn y danaw. A gwrychyon a deuynt o’r rei hynny am y lygeit ac a’e dallei, tybygei ef. Ac yna yd anuones ef kennadeu yn ol dewinyon breudwydon y bop lle. A’r kennadeu a damweinawd ar was ieuanc a gawssei ragor gan Duw o yspryt dewinyaeth y dehogyl I breudwydyon a gweledigaethev a delynt rac llaw yn oes oessoed. A’r gwas a ducpwyt hyt rac bron y brenhin, a’r brenhin gwedy y dyuot a uenegis idaw y vreudwyt. ‘Ie,’ heb y gwas, ‘dehogyi dy ureudwyt a wnaf, a’th gyghori ditheu amdanaw. Ac ony bydy wrth gyghor, ef a daw dy ureudwyt ytt odieithyr dy hun ual yd wyt yn y gwelet drwy dy hun. Llyma dy vreudwyt,’ heb y gwas. ‘Y peir a weiut trwy dy hun a arwydockaa y dinas hwnn. Y seith troet a welut yw y seithwyr yssyd yn y lywyaw, y rd yssyd yn berwi o ormod kyuoeth a golut ac yn darparu brat ytt, ony ledir wynt yn ebrwyd.’ Ac ny bu y brenhin wrth gyghor y gwas, [546] yny ladassant wy euo a dwyn y urenhinyaeth y arnaw. Velly ny bydy ditheu am dy uab a doethon Rufein, y rd yssyd y’th uredychu ac y’th dwyllaw ar eireu yny gafforit gyfle y’th lad ac y dwyn dy deyrnas y arnat, ony iedy wynt yn ebrwyd.”

“Llyma uyg cret,” heb ef, “y lledir wynt auory.” A thrannoeth, trwy y lit, kyrchu y dadleudy a oruc, ac erchi crogi y uab a doethon Ruuein y gyt ac ef. Ac yna y kyuodes Iesse y uynyd a dywedut ual hynn yg gwyd pawb o’r niuer. “Ny dyly arglwyd bot yn anwadal na gadu y ffalsted a chelwyd y droi. Ac ual y somes y urenhines y brenhin gynt am y marcbawc, velly y soma dy wreic titheu tydi.” “Pa delw uu hynny?” heb ef. “Myn Duw! nys managaf, ony rody dy gret na dihenydyer y mab hediw.” “Na dihenydyir,” heb yr amherawdyr.


[12. Inclusa.]

“Llyma y chwedyl,” heb ynteu. “Yd oed marchawc gynt a welei y uot beunoeth y mywn twr uchel, yn ymgaru ac arglwydes ieuanc delediw fly welsei eiryoet olwc erni odieithyr y hun. A churyaw yn uawr a wnaeth o garyat yr unbennes. Sef a gafas yn y gyghor, mynet y grwytraw bydoed a dinassoed amdanei. Ac ual y byd yn kerdet, ef a weld gaer uawr vylchawc, a chastell ffyryf mawr amlwc yn y hymyl, a ffyryftwr aruchel yn y kastell, kynhebic y liw a’e lun y’r hwnn y gwelei y vot yndaw beunoeth ef a’ r wreic vwyhaf a garei. A thua’r twr y kyrchawd, a’r brifford y dan y kastell a gerdawd yriy doeth yn ogyvuch a’r twr. A bwrw golwc ar y twr a wnaeth, ac arganuot y wreic vwyhaf a garei yndaw; a llawen a da uu gantaw y gwelet. A’r dinas a gyrchawd, a dala lletty yndaw y nos honno. A thrannoeth, drwy uawred dyuot tua phorth y kastell, a galw y porthawr attaw, ac erchi idaw vynet y ovyn y’r brenhin a vynnei uarchawc ieuanc diffalst diwyt yn wr idaw. A dyuot a oruc att y brenhin, a dywedut uelly wrthaw, ‘Gollygher y mywn,’ heb ef, ‘y [547] edrych a aller defnyd ohonaw.’ A’r marchawc a deuth y’r llys, a chanmoledic uu gan bawp y deuodyat ef. Ac ar vyrder,” kyn ganmoledicket vu a’e wneuthur o brenhin yn oruchel dros y gyuoeth. Ac yna y dywawt ef wrth y brenhin vot yn reit idaw ef gaffel lie dirgeledic y vedylyaw ygkylch swyd a chyfrif kymeint ac a oed arnaw. ‘Edrych y kyfle a vynnych a chymer ef.’ ‘Llyma a vynnwn i, arglwyd,’ heb ef, ‘gadu ym adeilat ystaueil yn ymyl y twr; kanys diamsathyr yw yno.’ ‘Da yw gennyf i hynny,’ heb y brenhin. Ac ar hynt, y marchawc a hens adeilat ystauell hard idaw yn ymyl y twr, a pheri y’r saer gwneuthur fford dirgeledic idaw y vynet y’r twr att wreic y brenhin. A’r saer a wnaeth y ffordd, ac yny ymgauas a’r vrenhines y wneuthur y vynnv ohonei. Ac uai yd oed, diwarnawt, yn bwyta an yr vn bwrd a’r brenhin, yd arganuu y brenhin y vodrwy annwylaf yn y helw am vys y marchawc. Ac yn llidiawc cidigus, gofyn idaw beth a wnaei y vodrwy ef ar law y marchawc. A’r marchawc ystrywgar a tygawd na bu uedyannus dyn eiryoet arnei namyn euo. ‘Ac am hynny, arglwyd, galw dy gof attat, ac edrych pa du y kedweist dy uodrwy, wrth na bu honn ciryoet y’th ueu di.’ Ac ymgynhewi a oruc y brenhin, a bwytta, a ryuedu gweith y uodrwy. A gwedy bwyta, y brenhin a gychwynnawd tua’r twr y ovyn y’r urenhines y vodrwy. A’r marchawc o’e fford ynteu a duc y vodrwy idi y dangos y’r brenhin pan y gofynnei. A’r brenhin, pan doeth, a ofynnawd y vodrwy, a hitheu a’e dangosses idaw. Ac yna [548] y goruc y brenhin y agreiffto ehun yn y uedwl am gystudyaw y marchawc ac am dybyaw y wreic, ac wynt yn wirion ar y vryt ef. Ac yna y dywawt y marchawc wrth y vrenhines ‘Miui a af y hela y gyt a’r brenhin auory. A mi a e gwahodaf ef wrth y vwyt y’m ystauell i pan del o hela, ac a dywedaf idaw dyuot y wreic vwyaf a garaf o’m gwlat y’m ol. A byd ditheu yn an herbyn ninneu, ac amryw wisc ymdanat. Ac yr a gymero ef o adnabot arnat ti, na at ti arnat y adnabot ef na’e welet eiryoet hyt yna.’ ‘Mi a wnaf,’ heb hi. A thrannoeth yd aethant y hela. A gwedy kanu corn had a daruot hela, y marchawc a adolygawd y’r brenhin dyuot y vwyta y ystauell ef y dyd hwnnw. A’r brenhin a deuth; a phan deuth, kyntaf dyn a welas, y wreic yn ystauell y marchawc. A gofyn a wnaeth ef idi beth a wnaei hi yno, a pha fford y deuth yno. ‘Anawd iawn,’ heb hi, ‘yw ymi venegi ytti y gyniuer fford amdyfrwys a ymdeeis i o m gwlat hyt yma. Ny wn ynneu le iawnach ym vot floe yn ystauehl y gwr mwyaf a garaf. Ac os bwrw kyfadnabot yd wyt ti yn oh kyffelybrwyd, edrych di pa he y mae y neb yd wyt yn y geissaw, wrth na weleist ti olwc arnaf i eiryoet hyt hediw.’ Ac yna kynhewt a oruc y brenhin, a medylyaw na welas eiryoet gwreic a modrwy mor debig a’e wreie ef a’e vodrwy y wreic a modrwy y marehawc. A gwedy bwyt, y brenhin a aeth tua’r twr y geissaw diheurwyd am y wreic ual y kafas am y vodrwy. A hitheu a’e racvlaenawd ef y fford arahl, ae a symudawd wise a gwisgaw y chartrefwise ehun ymdanei. Ac ynteu pan deuth a’e hagreithawd ehun yn y uedwl, am y gamadnabot ar orderch y marehawc. Ac ym Penn yspeit o amser, y marchawc awelas nat oed diberigyl idaw kynnal karadas a gwreic y brenhin yn un what ac ef, ygwaethach yn y lys a’e gastehl ehun. Ac ef a gafas yn y gyghor parattoi hong a’e hlenwi o bop da. Ac yna ef a erchis kenyat y brenhin y uynet tua’e wlat, wrth na buassei ys hir o amser. A’r brenhin a e kanhadawd. A thrannoeth, ef a doeth kyn eu kychwynnv, ef a’e orderch, att y brenhin y lie yd oed ef yn gwarandaw offeren. Ac ef a adolygawd” idaw pen y offeirat teulu gwneuthur rwym priodas yrygtunt eli deu. A’r brenhin a beris eu priodi. A gwedy y briodas, wynt a gyrchassant y’r hong. A’r brenhin a aeth tua’r twr. A phan deuth, yd oed y twr yn wac, a’e wreic gwedy mynet gyt a’r marchawc. Velly, arglwyd amherawdyr, y soma dy wreic ditheu o gredu idi, a pheri dihenydyaw dy uab o’e hachaws.”

“Na pharaf, myn vyg cret!” heb ef. A’r nos honno y dywawt yr amherotres adan ucheneidaw a thristwch, a dywedut wrth y brenhin: “Ef a deruyd yti ual y daruu y ystiwart brenhin y Pwyl.” “Beth oed hynny?” heb y brenhin. “Nys managaf, ony rody dy gret ar dihenydyaw y mab avory. “Yn wir,” heb ef, “ef a ledir.”

[13. Senescalcus.]

“Y brenhin hwnnw a dyfassei heint yndaw ac a hwydawd. A gwedy y uedeginyaethu yn iach yd erchis y medic idaw keissaw gwreic ar y wely. Ac yd erchis ynteu y’r ystiwart llogi gwreic idaw yr naw morc. Sef a oruc ynteu, o chwant y da, rodi y wraig briawt ehun ar wely y brenhin. A gwedi bot achaws y’r brenhin y nos honno a gwreic yr ystiwart, ef a’ doeth y gwr drannoeth y erchi idi kyuodi y vynyd. A’r brenhin nis gadawd. Ac yna y datkanawd ynteu yg gwyd y brenhin y gain a’e gared. Ac yna y deholet ef o’r kyuoeth, a’r wreic a gafas gossymdeith digawn y gan y brenhin. Velly y deruyd [550] y titheu o chwant gwrandaw geireu y seithwyr doeth, ae y’th detholir o’th gyuoeth, a minneu a gaffaf digawn o da gan vyg kenedyl.”

A’r brenhin a Iidyawd o’r geir hwnnw, ac a tyghawd y lledit y inab drannoeth. A thrannoeth, heb gyghor gwyrda, yd erchis dihenydyaw y inab. Ac yna y doeth Martin, a dywedut a oruc wrth yr amher­awdyr val hynn. “Os o annoc yr ainherotres, heb gyfreith a heb yarn gwyrda, y lledy dy uab, ef a deruyd yt ual y daruu y wr henndoeth am y wreic.” Ac ny managawd y chwedyl yny rodes nawd y’r mab hyt trannoeth. Ac yna y dywawt ef.


[14. Tentamina.]

“Gwr hen a priodes morwyn ieuanc, ac a uu gywir wrthaw vlwydyn. A gwedy hynny ymdidan a orue a’e main yn yr eglwys, a dywedut nat oed uawr o digrifwch serchawl yd oed hi yn y gael gan y gwr yn y gwely, ac am hynny y hot hi yn karu gwas ieuanc. ‘Ie,’ heb y main, ‘prawf yn gyntaf annwyt dy wr, a thor y planbrenn bychan tec ffrwythlawn yssyd yn tyvu yn y erber, ac yssyd annwyiach gantaw noc un o’r prenneu ereill.’ A hitheu a wnaeth hynny. A gwedy daruot idi y dorri a dodi ar y tan, yr arglwyd a deuth adref o vwrw gweilch ac a adnabu y prenn. A gwedy gofyn ohonaw pwy a dorrassei y prenn y dywawt y wreic pan yw o eisseu tan y gwnathoed hi hynny, y ben tan idaw ef erbyn y dyuot atref. A thrannoeth, ymgael a main a wnaeth yn yr eglwys, a menegi idi y damwein oil, ac y dywawt y hot yn karu gwas ieuanc. Ac eissoes o annoc y main hi a broues y gwr yr eilweith. Val yd oed y gwr yn dyuot o hela, bytheiades a oed idaw, a garei yn vwy no’r hoIl gwn, a redawd an ffwrwr y swrkot. Sef a wnaeth hitheu, ysclyfyeit kyllell vn o’r gwyr a had yr ast. A gwedy y hagreithaw o’e gwr am wneuthur hynny yn y wyd ef, hitheu a dywawt pan yw o [551] drycanyan am Iygru y phan newyd y gwnathoed hi hynny, ac na wnaey byth y kyfryw. Ac yna y tewit wrthi. A thrannoeth, gwedy dywedut y main hynny, hi a dywawt y hot yn karu y gwas ieuane. A gwedy gofyn o’e main idi pwy a garei, hitheu a dywawt nat marchawe oed, namyn yr effeirat plwyf, ac na wnaei vocsach. ‘Ie,’ heb y main, ‘medylya yn gyntaf rae bot yn greulonach dial gwr hen, gwedy llittio, no gwr ieuanc. A phrawf ef y dryded weith.’ O annoe y main hi a’e proues ual hynn. Val yd oed ef yn gwneuthur gwled y vonhedigyon a phennaduryeit y dinas, gwedy gossot pawb y eisted a gwassanaethu arnadunt o’r anree kyntaf, hithev a rwyinawd agoryat y phrenuol wrth y lliein a oed ar y bwrd. A chyvodi a oruc ar y redee tua’r penn arall y’r ty a thynnv y lliein, yny dygwyd y’r llawr a oed arnaw o vwyt a diawt a phetheu ereill. Ac escussaw a wnaeth a dywedut mae y gyrchu kyllell a uei well y harglwyd y daroed idi y damwein hwnnw. Ac yna, o orchymyn yr arglwyd, y dodet llieineu o newyd ar y byrdeu a bwyt a llynn arnadunt. A thrannoeth y bore, kyvodi a oruc y gwr y uynyd, a pheri kynneu tan mawr. Ac ymliw a’e wreic am y tn gweithret a wnathoed, a dywedut pan yw o amylder drycwaet a oed yn y chorff y gwnadoed hi hynny. Ac o’e hanuod hi, ef a beris idi dwymaw y breich wrth y tan, ac a beris ellwng gwaet arnei yny25 oed yn llywygu; ac yna rwymaw y dwy vreich a’e dodi yn y

gwely. A hitheu a anuones at y main y - dywedut y had. Ae mam a doeth attei a dywedut wrthi: ‘Pony dywedeis i itti nat oed dial drymaeh floe vn henwr gwedy lhittyei?’ Ac eilweith dywedut wrthi A gredy di bellach y’r gwr ieuanc?’ ‘Na chredaf, dioer, byth,’ heb hi. A thra uu vyw y bu diweir a gwastat. Ymogel di[552]theu, arglwyd amherawdyr,” heb y Martin, “rae dygwydaw y mywn kared kymeint ac y lledych dy uab yr ethrot dy wreic. A bit diogel itt y dyweit y mab auory.”

“Ny chredaf ynneu hi vyth,” heb y brenhin. A phan uenegis y brenhin y’r urenhines y dywedei y mab drannoeth, i kythrudyaw yn uawr a orue hi, ac ny wybu hi dim dechymie o hynny allan. A thrannoeth, pan gyuodes yr heul ar y byt yn oleu diwybyr, yr amherawdyr a r gwyrda a’r doethon a aethant y’r eglwys. A gwedy gwarandaw offeren yn dwywawl, yd aethant odieithyr y vynnwent y eisted ar penn karrec y le amlwc. Ac yna y doeth y inab ger bronn yr amherawdyr rwg deuwr doeth. A gwedy adohi y arglwyd dat ac erehi idaw y gerenyd, herwyd na haedassei ef na’e var na’e anuod, “A’r goruchaf Duw,” heb ef, “y gwr a wyr pob peth o’r a uu ac a vyd, a dangosses ymi ac y’m hathrawon yn amlwc, trwy yr arwyd ar y lleuat a’r seren oleu eglur yn y hymyl, o dywedwn i vngeir yn vu o’r seith niwarnawt, na dihagwn rae agheu. Ac yna, arglwyd dat,” heb y mab, “am y weledigaeth honno y teweis i, arglwyd, a’r amherotres y’m ethrot ac y’m kuhudaw wrthyt megys pci bydwn gelyn itt a cheissaw dy amherodraeth a’th diuetha. A thebic yw hi wrthyt ti amdanaf i ac y bu yrwng y marchawc gynt a ‘e vu mab ar y mor.” “Beth oed hynny?” heb yr amherawdyr.


[15. Vaticinium.]

“Marchawc a’e uab a oedynt y mywn ysgraff ar y mor. A dyuot dwy vran a greu uch eu penn, a disgynn ar gwrr yr ysgraf a greu bop eilwers. A ryued uu gan y marchawc hynny. A’r mab a dywawt wrth y dat bot y brein yn dywedut y bydei da gan y dat kael dala blaen y lewys tra ymolchei, a’e uam yn dala twel idaw. A llidyaw a oruc y marchawc o’r geir hwnnw, ac ysclyffyeit y mab [5~] a’c vwrw yn y mor dros y benn, a mynet ymeith a’e yscraf. Ac o dwywawl dyghet, ymlusc o’r mab ar y dwylaw a e draet yny ymgafas a charrec yrwng alit a mor. Ac yno y bu tridie a theirnos heb vwyt a heb diawt. Ac yno y kauas pyscodwr y mab, ae y gwerthawd ef y ystiwart o wlat bell yr ugein more. Ac rac aduwynet y uoesseu a dahet y deuodeu a’ e wassanaeth, ef a gafas enryded mawr gan yr arglwyd. Ac yn hynny, brenhin y wlat honno a oedit yn y orthrymu yn uawr o achaws bot teir bran yn greu uch y benn nos a dyd. A galw y gyt y holl wyrda a’e doethon, ac adaw rodi y vn verch a hanner y vrenhinyaeth y’r neb a dehoglei greuat y brein ac a’e gwylltei byth y wrthaw ef. A gwedy na cheffit neb a allei hynny nac a’e gwypei, o ganyat yr ystiwart y kyuodes y gwas ieuanc a dywedut wrth y brenhin, o chadarnhaei y edewit, y gwnaei ef gymeint ac yd oed y brenhin yn y erchi. A gwedy kanhadu hynny, y mab a dywawt ual hynn. Yr ys deg mlyned a mwy,’ heb ef, ‘y bu newyn ar yr adar ac ar yr aniueileit ereill. Yr hynaf o’r brein a edewis y wreic ym perigyl agheu o newyn, ac a aeth ymeith y wlat arall y geissaw bwyt. A’r bran racco, oed ieu no hwnnw, a drigyawd gyt a hi yr hynny hyt hediw. Ac yr awr honn, gwedy amlhau ymborth, y deuth y bran hen drachefyn, ac y mae yn holi y wreic y’r hail a’r bran arali yn y hattaI racdaw. A phellach, oc eu kytsynnedigaeth, y maent yn dodi ar dy yarn di deruyn eu dadyl, kanys pennaf wyt.’ Ac yna, o duundeb y gwyrda, y barnawd y brenhin y wreic y’r hwnn a’e differth rac y marw o newyn, ac na dylyei yr hwnn a’e gedewis dim ohonei. A phan welas y brein hynny, ehedec a wnaeth y deu vran y gyt yn llawen orawenus, a’r hen vran a ehedawd ymeith y dan ermein a gweidi. Ac yna y kauas y mab [554] enryded mawr gan y brenhin, ac y barnwyt yn lie gwr doeth. Ac o gyt gyghor y rodet merch y brenhin y’r mab, a hanner y vren­hinyaeth. A dydgweith, ual y byd y mab yn mynet trwy y dinas, ef a welei y yam a’e dat yn lietyv yn ty vwrgeis, wedy adaw y wlat o eisseu da, a dyuot y geissaw da hyt yno. Ac ygkyich gosper, ef a anuones ysgwier idaw y ty y bwrgeis, a dywedut idaw y bydei y brenhin ieuanc y gyt ac ef drannoeth yn bwyta. A’r bwrgeis a dywat: ‘Bit yn llawen. Ef a geiff goreu a galler idaw.’ A thrannoeth, pan uu amser gan y brenhin, ef a doeth y letty y marchawc. A phan doeth, y marchawc a gymerth lavwr a chawc y gynnic dwfyr y ymolchi y’r brenhin ieuanc; ac nys gadawd ynteu. Ac ef a geissawd daia y venyc, a’e wreic yn dala twel. A’e wrthot a oruc ynteu, a dywedut dan owenu yn llawen: ‘Arglwyd dat,’ heb ef, ilyma wedy r’dyuot yr hynn a dywedeis i ytti, ac yd oed y brein gynt yn greu ar yr ysgraff pan vyryeist ti vyui yn y mor. Ac na dolurya di yr hynny, kans Duw a’e troes yn lies ymi. Ac o hynn allan y kytwledychy di, ti a’m main, y gyt a mlvi tra voch vyw.’ Megis hynny, arglwyd dat, val y bu y mab hwnnw ufud a darestyngedic y dat, velly y keffy ditheu vyvi yn uvud ytt yr meint vo vyg gailu yn y byt hwnn. Ac yr Duw na chret ti geissaw ohonaf i treissaw dy wreic. Ti a wdost pen ohonat ti dy hun, o’e harch hi yg gwyd gwyrda, ymi vynet y hystauell hi. Ac ymgynnic ual nat oed gyfyawn idi, hynny a oruc hitheu. A gwedy y gwrthot ohonaf i, hitheu vegys agheu vy eneit a amgreffinnawd ehun, ac a tynnawd waet o’e hwyneb a gwallt y phenn. Ac yr hynny oil, argiwyd dat, myui a odefaf dy yarn di, ti a’th wyrda, arnaf i.”

Ac yna y gelwit ar yr amherotres y atteb rac bronn. [555] Hi a dywawt rywneuthur ohonei hi hynny rac dwyn O’ r mab kyuoeth y dat a” hitheu. Ac yna o yarn yr amherawdyr a’r gwyrdaa y llosget korf yr amherodres, ac o yarn y goruchaf vrawdwr. Sef oed hwnnw, Duw goruchaf, yr hwnn a gymerth yr eneit y’r poen a haedawd yn diannot.

Ac uelly y teruyna chwedyleu y seith doeth.

SOURCE:
Anonymous.Chwedleu seith doethon Rufein o Lyfr coch Hergest golygwyd. ed. by Henry Lewis. Wrecsam : Hughes, 1925.


Back to the Red Book of Hergest
Back to Welsh Texts
Back to CLC

1